Gerddi Tawel


Up Quiet Garden Movement The Concept History Associate Quiet Gardens Gerddi Tawel Quiet Gardens to visit Patrons Newsletter Hosting Quiet Gardens Growing the Ministry Resources to order Links

 

Gerddi Tawel a Lleoedd Tawel

Gweinidogaeth o

Groeso a Gweddi

"Dewch chwi eich hunain o’r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn"
Marc 6:31

 

Prif weledigaeth Ymddiriedolaeth y Gerddi Tawel yw cychwyn a chynnal rhwydwaith o gyfleoedd lleol ar gyfer gweddi a thawelwch;
i gynnig mangre i fyfyrio a mwynhau harddwch,
a chyfle i ddysgu am fywyd ac ysbrydolrwydd Cristnogol;
ac i brofi iachad yng nhyd-destun cariad Duw.

 

Yr Ardd Dawel a’r Fangre Dawel

Mae mudiad y Gerddi Tawel yn hybu darparu canolfannau lleol lle bydd cyfle i neilltuo amser i orffwys a gweddïo. Gweinidogaeth o groeso yw hyn.

Daw Gerddi Tawel a Lleoedd Tawel i fod pan fydd pobl yn ymateb i’r weledigaeth hon ac yn cytuno agor eu cartrefi a’u gerddi am ddiwrnodau o lonyddwch a myfyrdod. Ar amser penodol daw’r rhain yn lleoedd o encil a chyfarfod; o adnewyddiad ysbrydol ac o gynhaliaeth. Ar yr aelwyd neu yn yr ardd, bydd cyfle i rannu gofidiau, adrodd straeon ac offrymu gweddi.

Mae Gerddi Tawel a Lleoedd Tawel hefyd wedi cael eu sefydlu mewn tai encil, eglwysi, canolfannau lleol, ysgolion ac ysbytai. Yma mae ardaloedd arbennig o harddwch a heddwch wedi’u cysegru i weddi tawel ac unigedd.

Gall Gardd Dawel neu Fangre Dawel fod o unrhyw faint a siâp. Maent yn bodoli yn y wlad ac yn y dref; gallant fod yn barhaol neu gael eu cynnig am gyfnod byr yn unig.

Bydd Gerddi Tawel a Lleoedd Tawel yn gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth y Gerddi Tawel, sydd yn rhoi anogaeth iddynt drefnu eu rhaglenni eu hunain i ateb anghenion lleol. Mae swyddogion yr Ymddiriedolaeth ar gael i gynnig cyngor; bydd cyfle hefyd i gysylltu a Gerddi Tawel eraill am gymorth.

Sut i Ddod yn Rhan

Efallai teimlwch alwad i agor eich cartref fel Gardd Dawel – neu byddech yn hoffi agor Mangre Dawel yn eich eglwys leol, neu’r ysgol, yr ysbyty, y carchar, y gweithle neu’r ganolfan gymunedol.

Anfonwch at E-Bost: quiet.garden@ukonline.co.uk am ragor o fanylion ynghylch y weinidogaeth hon o groeso a gweddi, ac am sut i sefydlu Gardd Dawel neu Fangre Dawel.

Gerddi tawel i ymweld â nhw yng Nghymru

 

Ymddiriedolaeth y Gerddi Tawel

Cychwynnodd y weinidogaeth yn 1992 pan agorodd yr Ardd Dawel gyntaf yn Stoke Poges, Swydd Buckingham, Lloegr. Sefydlwyd hon gan y Parch. Philip D. Roderick, offeiriad plwyf oedd yn gweithio yn Esgobaeth Rhydychen, ac sydd nawr yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Gerddi Tawel. Gafaelodd y syniad yn nychymyg eraill, ac yn fuan daeth mwy o Erddi Tawel i fod. Erbyn hyn, mae Gerddi Tawel a Lleoedd Tawel yn y Ddinas yn Ynysoedd Prydain, yn Ewrop, De a Gogledd America, India, Affrica, Awstralia a Seland Newydd.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 1994 i gynorthwyo gweinidogaeth ryng-enwadol i’r Gerddi Tawel unigol. Mae’n cefnogi’r sawl sy’n ystyried darparu Mangre Dawel, gan ymateb yn bositif i awgrymiadau a syniadau newydd, yn ogystal â darparu gofal bugeiliol. Mae’r Ymddiriedolwyr yn ymchwilio’n gyson i ffyrdd o ariannu’r adnoddau sydd eu hangen i alluogi’r weinidogaeth i barhau i dyfu.

 

Noddwyr Ymddiriedolaeth y Gerddi Tawel.

Richard Foster
Y Gwir Parchedig Richard Harries
Yr Arglwydd Laing o Dunphail
Gerard W. Hughes, S.J.
Y Gwir Parchedig Yr Esgob Kallistos o Diokleia
Y Chwaer Margaret Magdalen, C.S.M.V.
Yr Arucheledd Cardinal Murphy-O’Connor
Yr Athro Syr Ghillean Prance
Esther de Waal

Pen y Tudalen